Polisi preifatrwydd
Y Dogs Trust yw prif elusen lles ac ailgartrefu cŵn y DU. Ers dros 50 mlynedd, rydym wedi gwneud adduned i beidio byth â rhoi ci iach i gysgu. Rydym yn cadw at ein haddewidion, ac mae hynny'n cynnwys trin eich manylion personol yn ofalus a pharchu eich preifatrwydd.
Mae'r polisi hwn yn disgrifio sut mae’r Dogs Trust yn defnyddio'ch gwybodaeth i helpu i ddatblygu ein gwaith o ddiogelu lles cŵn.
Os nad ydych yn gyfarwydd â gwefannau, mae’n help i wybod y gallwch glicio unrhyw destun glas, neu unrhyw lun i gael rhagor o wybodaeth. Ac os ydych chi am fynd yn ôl i ble y daethoch chi, cliciwch ar y botwm 'Ewch yn ôl i' yng nghornel dde uchaf y dudalen i fynd yn ôl.
Gall ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis newid o bryd i'w gilydd. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'r tudalennau hyn yn achlysurol.
Diweddarwyd ddiwethaf 25 Mai 2018
Mae'r polisi hwn yn ymdrin â'r holl wybodaeth bersonol a gesglir gan y Dogs Trust.
Mae cwcis yn ein helpu i asesu a gwella ein gwefan a gallant roi gwybodaeth ddefnyddiol. Darganfyddwch sut rydym yn cadw eich data ar-lein yn ddiogel
Yr wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi
Mi allwn gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth sensitif amdanoch oni bai bod rheswm penodol dros wneud hynny, a gyda'ch caniatâd, neu pan fyddwn yn nodi sail gyfreithiol ddilys dros wneud hynny.
Sut y gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth
Rydym am i chi deimlo'n hyderus y bydd eich gwybodaeth yn ddiogel a sut rydym yn ei defnyddio pan fyddwch yn cefnogi ein gwaith a'n cŵn yn ein gofal.
Nid ydym yn rhentu, yn cyfnewid na gwerthu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau eraill i’w defnyddio ganddynt yn eu gweithgareddau marchnata eu hunain.
Newid sut hoffech glywed gennym
Helpwch ni i wneud pethau'n iawn drwy ddweud wrthym pan fydd eich manylion cyswllt neu eich gwybodaeth bersonol arall yn newid. Mi allwch, ar unrhyw adeg, newid sut rydym yn cysylltu â chi, neu gallwch ofyn i ni roi'r gorau i gysylltu â chi'n gyfan gwbl.
Cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid cyfeillgar a byddant yn nodi unrhyw newidiadau rydych am eu gwneud.
- Ffoniwch ni ar 020 7837 0006
- Ewch i Cadwch mewn Cysylltiad
- Gallwch ysgrifennu atom yn Dogs Trust, Clarissa Baldwin House, 17 Wakley Street. EC1V 7RQ
Noder, os byddwch yn dweud wrthym nad ydych am glywed rhagor gennym, a'ch bod ar ein cronfa ddata cefnogwyr, efallai y byddwch yn derbyn ychydig o eitemau am yr wythnosau dilynol. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i ni ddewis gwybodaeth cefnogwyr ychydig wythnosau cyn anfon y post atoch.
Os gofynnwch i ni roi'r gorau i gysylltu â chi'n gyfan gwbl, byddwn yn cadw eich gwybodaeth gyswllt, fel enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn ar ein rhestr atal, i sicrhau nad ydych yn derbyn gohebiaeth ddiangen yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd rydym wedi defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni. Byddwn yn hapus i drafod eich pryderon.
Hefyd, mae gennych hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu i'r Rheoleiddiwr Codi Arian.