Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

Ynghylch ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig

Ni ddylai unrhyw un gael ei orfodi i ddewis rhwng ei gi a lle diogel i gysgu.

Dyna’r rheswm pam rydym ni’n rhedeg ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig. Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau digartrefedd ar draws y DU i'ch cefnogi i ddod yn gyfeillgar i gŵn.

Drwy ymuno â'n cynllun, byddwch yn ein helpu i gadw pobl a'u hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd. Mae cŵn yn cynnig cariad a chwmnïaeth ddiamod, a all fod yn arbennig o hanfodol i bobl sy’n profi digartrefedd. I lawer o bobl sy'n profi digartrefedd, efallai mai eu cŵn yw'r unig berthynas sefydlog a chadarnhaol sydd ganddynt.

Mae ein gwaith ymchwil gyda Homeless Link yn dangos bod llai na 10% o hosteli yn gyfeillgar i gŵn. Mae hyn yn golygu nad yw llawer o berchnogion cŵn yn gallu cael cymorth a llety hanfodol oherwydd eu cŵn.

Mae ein cynllun Croesawu Cŵn ardystiedig yn rhad ac am ddim, yn hygyrch ac wedi’i deilwra i’ch gwasanaeth. Mae’n addas ar gyfer unrhyw wasanaeth digartrefedd, gan gynnwys os ydych yn gweithredu:

  • Llety brys
  • Llety dros dro neu â chymorth
  • Canolfan ddydd neu hwb mynediad
  • Gwasanaeth dadwenwyno neu adfer

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod yn gyfeillgar i gŵn. Os ydych eisoes yn derbyn cŵn, byddwn yn eich cefnogi i gryfhau eich polisïau presennol.

Pam ddylai fy ngwasanaeth dderbyn cŵn?

Gall bod yn gyfeillgar i gŵn wneud gwahaniaeth enfawr i'ch gwasanaeth, yn ogystal â’r perchennog ci rydych chi'n ei gefnogi.

Mwy o wybodaeth