Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

Y manteision o dderbyn cŵn

Mae cymaint o fanteision i ddod yn gyfeillgar i gŵn, nid yn unig i gŵn a’u perchnogion, ond hefyd i'ch gwasanaeth.

Yn aml, rydym yn derbyn adborth gan wasanaethau sy’n gyfeillgar i gŵn sy’n nodi bod cŵn yn darparu dull o dorri’r garw yn gymdeithasol. Gall eu cwmni a'u presenoldeb fod yn lleddfol a chefnogol i'r rheini sydd o gwmpas.

Yn ogystal, gall presenoldeb ci helpu pobl eraill sy'n defnyddio'ch gwasanaeth. Mae rhai gwasanaethau wedi dweud wrthym fod cael cŵn o gwmpas wedi helpu pobl eraill yn y gwasanaeth i ymgysylltu mwy.

"Roedd cael Bullseye yn yr adeilad yn therapiwtig iawn i'r holl breswylwyr a staff. Roedd yn gi mor gyfeillgar gyda chynffon oedd wastad yn siglo. Roedd pawb wrth eu bodd ac yn edrych ymlaen at ei weld bob dydd. Roedd Dogs Trust yn darparu cymorth gwych."

Shona

Gweithiwr cymorth gyda Streetwork, gwasanaeth Croesawu Cŵn ardystiedig

Mae bod yn gyfeillgar i gŵn hefyd yn bwysig i wasanaethau sy'n defnyddio dull sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. I lawer o berchnogion cŵn sy’n profi digartrefedd, byddant wedi profi trawma a cholled yn eu bywydau. Gall cais i roi'r gorau i'w ci atgyfnerthu hyn.

I unigolyn sy'n profi digartrefedd, efallai mai ei gi yw'r unig berthynas gadarnhaol sydd ganddo yn ei fywyd. Trwy dderbyn cŵn, rydych chi'n helpu i gynnal y berthynas hanfodol hon.

Pan fydd rhywun yn gallu cael mynediad at wasanaeth gyda’i gi, mae’n effeithio ar ddau fywyd, ac o fudd iddynt, yn hytrach nag un bywyd yn unig.

Pam y dylem gael ein hardystio?

Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi fel eich bod yn wasanaeth Croesawu Cŵn ardystiedig. Dysgwch am rai o’r manteision a sut i fod yn wasanaeth ardystiedig.

Mwy o wybodaeth