Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

Sut gallwn ni helpu

Rydym yn deall y gall biliau milfeddygol fod yn ddrud, yn enwedig os ydych yn ddigartref. Dyna pam yr ydym yn rhedeg ein cynllun milfeddygol. Rydym yn darparu mynediad i ofal milfeddygol am ddim, fel nad oes rhaid i chi boeni am filiau milfeddygol drud.

Gallwn ni eich helpu chi os rydych yn:

  • Cysgu allan ar hyn o bryd
  • Byw mewn gwasanaeth digartrefedd (e.e. hostel neu lety â chymorth)
  • Byw mewn llety dros dro (e.e. gwesty neu lety gwely a brecwast sy’n cael ei ddarparu gan eich cyngor lleol)
  • Aros gyda ffrindiau
  • Sgwatio
  • Byw mewn pabell neu gerbyd (e.e. car neu fan)
  • Teithiwr, sydd heb le parhaol i barcio, neu sy’n byw mewn gwersyll ar ochr y ffordd
  • Mewn perygl o fod yn ddigartref, fel wedi cael gorchymyn troi allan, gyda dyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent  neu’n cael cymorth gan eich awdurdod lleol dan y ddyletswydd 56 diwrnod i atal digartrefedd.

“Mae’n gymaint o faich oddi ar fy ysgwyddau i allu dibynnu ar y Prosiect Gobaith ar gyfer iechyd Matilda.”

Louisa, sydd wedi cofrestru ei chi, Matilda, ar ein Prosiect Gobaith

Os ydych yn byw mewn llety parhaol ond angen cymorth gyda biliau milfeddygol, rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau a all eich cefnogi.

Gallwn dalu am bob triniaeth ataliol ar gyfer eich ci. Mae hyn yn cynnwys microsglodynnu, ysbaddu, triniaethau chwain a dilyngyru, a brechiadau. Yn ogystal, gallwn dalu am y rhan fwyaf o driniaethau hanfodol a brys y gallai fod eu hangen ar eich ci.

Gallwn gefnogi perchnogion cŵn unrhyw le yn y DU.

Ble rydym ni’n gweithio

© Credyd ffotograff: Richard Murgatroyd