Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow all or manage them individually.

Manage cookiesAllow all

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.

Save preferences

Cymorth i berchnogion cŵn

Rydyn ni’n deall eich perthynas arbennig gyda’ch ci, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw  gyda’ch gilydd os ydych chi’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gall hynny gynnwys eich cefnogi gyda gofal milfeddygol am ddim a dod o hyd i lety sy'n croesawu cŵn, neu roi help llaw i chi gyda chyngor ar sut i ofalu am eich cyfaill, byddwn bob amser yma i chi a'ch ci.

Help i ddod o hyd i wasanaethau digartrefedd sy’n gyfeillgar i gŵn

Rydym ni'n gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i lety a chymorth i chi a'ch ffrind bach blewog.

Rydym ni yma i helpu.

Rydym ni wedi llunio rhestr o wasanaethau digartrefedd sy'n gyfeillgar i gŵn ledled y DU a all helpu i ddod o hyd i dai a chymorth i chi a'ch ci.

Helpwch fi i ddod o hyd i gymorth

Cymorth gyda gofal milfeddygol am ddim i’ch ci

Mae gofalu milfeddygol yn rhan fawr o gadw eich ci yn hapus ac yn iach. Dyna pam rydyn ni’n darparu gofal milfeddygol am ddim i chi os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, fel wedi cael gorchymyn troi allan, gyda dyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent neu os ydych chi’n cael cymorth gan eich awdurdod lleol o dan y ddyletswydd 56 diwrnod i atal digartrefedd.

Byddwn yn talu cost triniaethau hanfodol a brys ar gyfer eich ci yn eich milfeddygfa leol.

Cael mynediad at ofal milfeddygol am ddim

Gwasanaethau cyngor a chymorth digartrefedd

Byddwn bob amser yn eich helpu chi a'ch ci mewn unrhyw ffordd y gallwn. Fodd bynnag, mae rhai pethau y tu hwnt i'n harbenigedd, a dyna ble y gall sefydliadau eraill ddod i’r adwy.

Edrychwch ar ein rhestr o sefydliadau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dod o hyd i gymorth arall